19.12.07

Y blog drws nesa'

A minnau'n gymharol newydd i'r byd blogio personol, penderfynais fynd am dro a cheisio dod i adnabod rhai o'm cymdogion newydd. Trwy bwyso ar y botwm 'Next Blog' ar dop y dudalen, gallwch ymweld â'r blog drws nesa'.

Y blog drws nesa' oedd 'Pizzas and Other Stuff', blog sydd wedi'i gysegru i bizzas, ymysg pethau eraill (ond dim ond pizzas oedd i'w gweld). Y stori ddiweddaraf yw bod tafarn Wyddelig yn Boston yn rhoi pizza am ddim i bob cwsmer sy'n gwario $8 ar gwrw. Ardderchog!

Ond peidiwch â chynhesu'
n ormodol at eich cymdogion; bydd y blog drws nesa' yn wahanol y tro nesa' y cymerwch gip. Yn ddiddorol, mae blogiau'n amrywio mewn iaith a diwyg, yn ogystal â chynnwys. Dyna ichi antur, yn wir!

Dylwn eich rhybuddio hefyd fod peryglon ar y daith hon i barthau anhysbys. Mae perygl y dowch ar draws flogiau anweddus o dro i dro. Gorchuddiwch eich llygaid a cheisiwch ddarganfod y botwm 'Next Blog'
er mwyn mynd ymlaen ar eich taith.

1 comment:

Rhys Wynne said...

Synaid ardderchod ar gyfer dod o hyd i folg diddordol, efallai dechraua i wneud hyn yn achlysurol a blogio am y canlyniad, boed yn dda neu ddrwg.