26.12.07

Oren?

Fel y gŵyr unrhyw un sydd wedi gadael hosan allan i'w llenwi gan Sion Corn ar noswyl Nadolig, un peth sy'n saff o fod ynddo yn y bore yw oren. Ond pa mor dda ydyn ni'n adnabod ein oren? Ai satsuma ydyw? Neu clementine? Neu beth am y tangerine!?! Waaaaa! Beth yn union yw'r gwahaniaeth rhwng yr holl ffrwythau oren blasus hyn? Mae gan bob un ei enw gwahanol, ond mae'n rhaid fod perthynas rhyngddynt.


Wedi chwilio a chwilio am yr ateb, deuthum o hyd i'r gwahaniaeth rhyngddynt:
  • Clementine: Mandarin heb hadau.
  • Mandarin: Math o oren bach gyda chroen llac.
  • Oren: I gymhlethu pethau, mae gwahanol fathau o orennau: orennau bogel, orennau Valencia, ac orennau gwaed yw'r rhai sy'n cael eu tyfu'n bennaf.
  • Satsuma: Yn wreiddiol o Japan, mae'r croen ychydig yn dynnach na'r clementine ond does ganddo ddim hadau ychwaith.
  • Tangerine: Mandarin cochaidd-orennaidd gyda blas nodweddiadol.
Mae hefyd orennau i'w cael na chlywais erioed amdanynt - ugli, tangelo, kumquat, minneola!

Dwi'n ystyried prynu detholiad o'r ffrwythau hyn er mwyn gweld a fedraf eu hadnabod gan ddefnyddio'r wybodaeth uchod.

No comments: