20.12.07

Torri calonnau

Wedi oriau o waith caled, dwi wedi gorffen torri calonnau. Bydd Bojas Rojas wrth ei bodd!

Yr unig broblem rwan yw bod gennyf lond gwlad o galonnau bach papur. Dwi'n wedi troi'n eitha cydwybodol pan mae'n dod at warchod yr amgylchedd, ac rwy'n gwybod fod ail-ddefnyddio yn dod o flaen ailgylchu ym mantra'r cofleidwyr coed: "reduce, reuse, recycle". Rhaid imi felly sicrhau nad oes unrhyw ddefnydd posibl i'r cannoedd o galonnau bach papur cyn fy mod yn eu rhoi yn y cwdyn tryloyw.

All unrhyw un awgrymu defnydd i'r calonnau bach?

1 comment:

Bojas Rojas said...

Beth am eu cadw nhw ar gyfer y cardiau enwau ar gyfer y byrddau yn y brecwast priodas??

'Pwl' o euogrwydd - Dylsen ni wedi cytuno ar anfon gwahoddiade dros e-bost neu facebook er mwyn peidio defynddio papur o gwbwl!! 'Reduce' ...