22.12.07

Beth yw gwerth yr anrheg hwn?

Un o'r pethau gorau am fod yn fab i athrawes yw disgwyl iddi ddychwelyd o'r ysgol ar ddiwedd tymor yr Hydref gyda llond basged o anrhegion Nadolig gan y disgyblion. Yn ein tŷ ni, rhain yw'r unig anrhegion fydd yn cael eu hagor cyn bore Nadolig. Fel arfer, gellir rhannu'r anrhegion i dri chategori: bwyd/melysion, pethau ymolchi ac addurniadau. Bob blwyddyn, yn ddi-ffael, bydd Terry's Chocolate Orange ymhlith yr anrhegion.

Yr anrheg mwyaf diddorol y flwyddyn hon oedd cerdyn yn cynnwys tocyn loteri a cherdyn crafu. Rydym eisoes wedi crafu'r cerdyn a chanfod ei fod yn ddiwerth - aeth hwnnw i'r bin ysbwriel cyn imi gael cyfle i'w ffotograffu. Nid ydym yn gwybod eto os yw'r tocyn wedi dod â chyfoeth annisgwyl i'r teulu ai peidio.

Mae'r tocyn wedi bod yn dipyn o destun trafod. Beth os yw'n llwyddiannus a bod y teulu yn cael miloedd, os nad miliynau, o bunnoedd dros nos? Beth fyddai ymateb y rhiant a roddodd y tocyn yn anrheg i athrawes ei phlentyn?

No comments: