29.12.07

Rhyfel y Rhosod


Dim ond dros y Nadolig y gallwn i gael yr amser a'r adnoddau i ddifyru'n hun gyda'r gweithgaredd hwn. Dwi wedi trefnu'r rhosod gan roi'r un dwi'n ei hoffi leiaf ar y chwith a'r un dwi'n ei hoffi fwyaf ar y dde. Mae'n bosib y bydd ambell i benderfyniad fod yn ddadleuol dros ben.

Wedi imi dynnu'r llun, sylwais fod un o'r rhosod ar goll. Dewch inni gael gweld a wnewch chi sylwi pa un sy'n absennol.

28.12.07

Mae'r haint yn ymledu ...

Mae blogio'n heintus. Mae'r haint hwn yn gafael yn y blogiwr ei hun, gan feddiannu ei feddwl am gyfnodau hir o amser. Gall hefyd ymledu i'r rhai sydd o'i gwmpas.

Ers dechrau'r wythnos, mae fy nhad, El Jefe (ar y dde), hefyd wedi troi'n flogiwr.

Wrth ddarllen ei flog, roeddwn yn falch dros ben i glywed fod fy nghartref bellach yn hawlio'r record byd am yr enw hiraf i dŷ. Gallwch ddarllen mwy am hyn, a dilyn ei symudiadau eraill, trwy ymweld â'i flog yn y fan hon.

27.12.07

Dwbl digidol

Un o'r pleserau mawr o ddychwelyd i'r gogledd yw gallu treulio ychydig o QT gyda'r brodyr, Bandido a Rebelde, yn chwarae'r gemau cyfrifiadurol diweddaraf. Y fwyaf poblogaidd y flwyddyn hon o bosib yw gêm golff Tiger Woods i'r Xbox360. Pan fyddwch yn dechrau chwarae'r gem, mae'n bosibl ichi greu fersiwn electronig ohonoch eich hunain, er mwyn cystadlu ar rai o gyrsiau golff enwocaf y byd.


Dyma'r fersiwn electronic ohonof fi. Cawsom ychydig o drafferth gyda'r gwallt (neu ddiffyg gwallt) a doedd dim sbectol i'w chael (ond fydda'i ddim yn gwisgo sbectol wrth chwarae golff na gemau cyfrifiadurol beth bynnag). Ydych chi'n gweld unrhyw debygrwydd? Gallwch fwrw eich pleidlais yn y golofn ar y dde.

26.12.07

Oren?

Fel y gŵyr unrhyw un sydd wedi gadael hosan allan i'w llenwi gan Sion Corn ar noswyl Nadolig, un peth sy'n saff o fod ynddo yn y bore yw oren. Ond pa mor dda ydyn ni'n adnabod ein oren? Ai satsuma ydyw? Neu clementine? Neu beth am y tangerine!?! Waaaaa! Beth yn union yw'r gwahaniaeth rhwng yr holl ffrwythau oren blasus hyn? Mae gan bob un ei enw gwahanol, ond mae'n rhaid fod perthynas rhyngddynt.


Wedi chwilio a chwilio am yr ateb, deuthum o hyd i'r gwahaniaeth rhyngddynt:
  • Clementine: Mandarin heb hadau.
  • Mandarin: Math o oren bach gyda chroen llac.
  • Oren: I gymhlethu pethau, mae gwahanol fathau o orennau: orennau bogel, orennau Valencia, ac orennau gwaed yw'r rhai sy'n cael eu tyfu'n bennaf.
  • Satsuma: Yn wreiddiol o Japan, mae'r croen ychydig yn dynnach na'r clementine ond does ganddo ddim hadau ychwaith.
  • Tangerine: Mandarin cochaidd-orennaidd gyda blas nodweddiadol.
Mae hefyd orennau i'w cael na chlywais erioed amdanynt - ugli, tangelo, kumquat, minneola!

Dwi'n ystyried prynu detholiad o'r ffrwythau hyn er mwyn gweld a fedraf eu hadnabod gan ddefnyddio'r wybodaeth uchod.

24.12.07

Nadolig Llawen, Amigos!!!

'A phan welsant y seren, yr oeddent yn llawen dros ben.'

Mathew 2:10

Beth fedra'i ddweud!?!

Wrth siopa ar ddydd Sadwrn, gwelais hwn ar y silff mewn siop 'bob peth'.

All rhywun feddwl am gapsiwn i fynd gyda'r ddelwedd?

Pwy sy'n siarad ar y We ... yn ddistaw, ddistaw bach?

Wnewch chi ddim credu gyda phwy y bum yn siarad ddiwrnod neu ddau yn ôl ... neb llai na'r dyn ei hun ... Sion Corn! Deuthum ar ei draws wrth imi chwilio am 'y peth mwyaf diddorol i'w wneud ar y We'. Trwy fynd i'r wefan hon, cewch chwithau hefyd gyfle i sgwrsio â Sion Corn.


Wedi dweud hynny, mae gennyf amheuon ai hwn yw'r Sion Corn 'go iawn'. Roeddwn yn synnu ei fod yn mynnu siarad Saesneg, a phan ofynnais iddo a oedd yn medru siarad Cymraeg, dechreuodd ffwndro a gofyn imi am fy hoff ffilm a'm harwydd zodiac. Efallai mai'r esboniad yw ei fod wedi cael cynorthwy-ydd i reoli'r wefan.

23.12.07

Chwarae yn troi'n chwerw

Cyn dychwelyd i'r gogledd pell, cafodd Peladito a Rodrigo noson brysur yn cynhyrchu chwerw ar gyfer y flwyddyn newydd.


Rhaid cyfaddef ein bod wedi torri ambell i gornel ar hyd y ffordd. Roedd y pecyn parod yn cynnwys llond tun o sylwedd tebyg i daffi triog a sach bach o furum. Tywalltom gilogram o siwgr (tua 3/4 yn siwgr masnach deg), y sylwedd trioglyd a phedwar peint o ddŵr berwedig i mewn i'r twba, ac, wedi'i droi am rai munudau, ychwanegwyd tua 20-25 litr o ddŵr oer. Mae'r twba bellach yn yr ystafell ymolchi, lle mae angen iddo gael ei gadw ar dymheredd rhwng 16˚-20˚C er mwyn i'r burum wneud ei waith.
Ymhen 8-9 diwrnod, bydd angen inni ychwanegu ychydig o siwgr i roi blas, a thua phedwar diwrnod yn ddiweddarach, bydd y chwerw yn barod i'w botelu. Dwi'n siwr o roi gwybod ichi sut fydd pethau'n dod yn eu blaen.

Roedd Rodrigo a minnau yn chwilio am enw ar gyfer cynnyrch newydd hwn. Gyda 75 y cant o'r bleidlais, mae'r cyhoedd wedi penderfynu mai 'Chwerw Teg' fydd ei enw.
(Nid yw'r ffotograff wedi dod allan cystal ag yr oeddwn wedi'i obeithio, ond mae'r peth pwysicaf yn y llun mewn ffocws.)

22.12.07

Beth yw gwerth yr anrheg hwn?

Un o'r pethau gorau am fod yn fab i athrawes yw disgwyl iddi ddychwelyd o'r ysgol ar ddiwedd tymor yr Hydref gyda llond basged o anrhegion Nadolig gan y disgyblion. Yn ein tŷ ni, rhain yw'r unig anrhegion fydd yn cael eu hagor cyn bore Nadolig. Fel arfer, gellir rhannu'r anrhegion i dri chategori: bwyd/melysion, pethau ymolchi ac addurniadau. Bob blwyddyn, yn ddi-ffael, bydd Terry's Chocolate Orange ymhlith yr anrhegion.

Yr anrheg mwyaf diddorol y flwyddyn hon oedd cerdyn yn cynnwys tocyn loteri a cherdyn crafu. Rydym eisoes wedi crafu'r cerdyn a chanfod ei fod yn ddiwerth - aeth hwnnw i'r bin ysbwriel cyn imi gael cyfle i'w ffotograffu. Nid ydym yn gwybod eto os yw'r tocyn wedi dod â chyfoeth annisgwyl i'r teulu ai peidio.

Mae'r tocyn wedi bod yn dipyn o destun trafod. Beth os yw'n llwyddiannus a bod y teulu yn cael miloedd, os nad miliynau, o bunnoedd dros nos? Beth fyddai ymateb y rhiant a roddodd y tocyn yn anrheg i athrawes ei phlentyn?

"Wake up and smell the coffee"

Bu 'nghefnder a 'nghyfaill Rodrigo a minnau yn gwylio Black Gold, ffilm ddogfen sy'n datgelu anghyfiawnder y fasnach fyd-eang trwy edrych yn benodol ar y diwydiant coffi a'i effaith ar gymuned yn Ethiopia. Clywais amdani'n gyntaf ar wefan Cristnogblog, ac, wedi imi ddarllen adolygiadau cadarnhaol ar wefan hynod ddibynadwy rottentomatoes.com, penderfynais ei phrynu.

Mae'r ffilm werth ei gweld. Cefais fy nharo gan ei llwyddiant i hepgor storiwr neu berson sy'n cyfweld, gan roi'r teimlad eich bod yno eich hun. Roedd y cyferbyniad trawiadol rhwng gwagedd y byd datblygiedig ac angen sylfaenol y byd sy'n datblygu hefyd yn effeithiol.

Rodrigo

Dwi wedi fy argyhoeddi fwyfwy o bwysigrwydd cefnogi'r fasnach deg hyd y gallaf. Nid yn unig y mae'n golygu fod y cynhyrchwr yn cael cyflog teg, ond y mae hefyd yn gofalu am amodau gwaith, cynaladwyedd ac yn darparu arian ar gyfer datblygu cymunedol (e.e. adeiladu ysgolion, llefydd chwech, ac ati).

Wrth gwrs, dwi'n ymwybodol hefyd ei bod yn amser dechrau meddwl am addunedau ar gyfer y flwyddyn newydd ...

21.12.07

Yng ngolau cannwyll


Yn ddiweddar, dwi wedi bod yn arbrofi â ffotograffiaeth yng ngolau cannwyll. Dechreuais gyda dwy sesiwn o dynnu portreadau, ac yna un sesiwn yn canolbwyntio ar y dwylo. Y ffotograff uchod yw fy ffefryn o'r drydedd sesiwn. Ysgrifennais y geiriau 'Trugarha wrthyf' ar fy nwylo fy hun gyda ffelt pen rad (ni pharodd yn hir). Er mwyn amlygu'r llinellau ar fy nwylo a rhoi'r argraff eu bod yn fudur, rhwbiais hwy â gronynnau coffi a diferyn neu ddau o ddŵr.

Dydw i ddim yn gwbl fodlon
â'r cysgodion ar y bysedd, ond dwi'n gobeithio rhoi cynnig arall arni cyn bo hir.

Welais i mo'r dudalen hon tan ar
ôl mi dynnu'r lluniau. Os ydych yn ystyried rhoi cynnig arni, mae'n werth cael golwg arni.

20.12.07

Torri calonnau

Wedi oriau o waith caled, dwi wedi gorffen torri calonnau. Bydd Bojas Rojas wrth ei bodd!

Yr unig broblem rwan yw bod gennyf lond gwlad o galonnau bach papur. Dwi'n wedi troi'n eitha cydwybodol pan mae'n dod at warchod yr amgylchedd, ac rwy'n gwybod fod ail-ddefnyddio yn dod o flaen ailgylchu ym mantra'r cofleidwyr coed: "reduce, reuse, recycle". Rhaid imi felly sicrhau nad oes unrhyw ddefnydd posibl i'r cannoedd o galonnau bach papur cyn fy mod yn eu rhoi yn y cwdyn tryloyw.

All unrhyw un awgrymu defnydd i'r calonnau bach?

Hoffwn gyflwyno …

Bojas Rojas

Ymhen tua thri mis, bydd Bojas Rojas a minnau’n priodi. Bydd y digwyddiad hwn yn cymryd lle amlwg yn yr anturiaethau dros yr wythnosau nesaf gan fod gennym lawer i’w wneud. Hefyd, yn dilyn y diwrnod mawr, mae’n bosib iawn y bydd y blog yn troi’n ‘Anturiaethau Peladito a Bojas Rojas’ ...

Bid â fo am hynny, rwyf wedi cael cyfrifoldeb pwysig. Mae’n dasg undonog ond heriol dros ben: gwneud tyllau siap calon mewn gwahoddiadau. Yr hyn sy’n ei gwneud yn heriol yw’r ffaith fod angen i’r pwnsh tyllau fod ar ongl o tua 30˚ a bod angen i ddau dwll fod wedi'u hunioni. Byddaf yn siwr o roi gwybod ichi sut hwyl y byddaf wedi gael arni.

(Para Paolo Inglés y Canadita: Peladito and Bojas Rojas tying the knot; Peladito has great responsibility of punching heart-shaped holes in invitation cards, a task that will require pin-point accuracy)

19.12.07

Y blog drws nesa'

A minnau'n gymharol newydd i'r byd blogio personol, penderfynais fynd am dro a cheisio dod i adnabod rhai o'm cymdogion newydd. Trwy bwyso ar y botwm 'Next Blog' ar dop y dudalen, gallwch ymweld â'r blog drws nesa'.

Y blog drws nesa' oedd 'Pizzas and Other Stuff', blog sydd wedi'i gysegru i bizzas, ymysg pethau eraill (ond dim ond pizzas oedd i'w gweld). Y stori ddiweddaraf yw bod tafarn Wyddelig yn Boston yn rhoi pizza am ddim i bob cwsmer sy'n gwario $8 ar gwrw. Ardderchog!

Ond peidiwch â chynhesu'
n ormodol at eich cymdogion; bydd y blog drws nesa' yn wahanol y tro nesa' y cymerwch gip. Yn ddiddorol, mae blogiau'n amrywio mewn iaith a diwyg, yn ogystal â chynnwys. Dyna ichi antur, yn wir!

Dylwn eich rhybuddio hefyd fod peryglon ar y daith hon i barthau anhysbys. Mae perygl y dowch ar draws flogiau anweddus o dro i dro. Gorchuddiwch eich llygaid a cheisiwch ddarganfod y botwm 'Next Blog'
er mwyn mynd ymlaen ar eich taith.

18.12.07

Gwendid

Ar ddydd Gwener, cefais dun o Quality Street yn rhodd gan gydweithiwr i Bojas Rojas. Erbyn neithiwr (nos Lun), roedd y cwbl wedi mynd. Roedd y tun yn cynnwys 1.2kg o felysion (ond hoffwn ychwanegu fod y pwysau'n cynnwys y papur o'u hamgylch, a wnes i ddim bwyta hwnnw). Fel y gwelwch, dyw'r haint ddim wedi amharu ar fy archwaeth. Ond, rhaid cyfaddef, mae hwn yn wendid gennyf; digwyddodd yr un peth i focs o rawnwin yr wythnos ddiwethaf.

Gwnaeth hyn imi ofyn 'Pam ydyn ni'n gor-fwyta?', a deuthum ar draws yr erthygl ddiddorol hon. Mae'n debyg y gall nifer o ffactorau biolegol ac emosiynol fod ar waith pan fyddwn yn gor-fwyta. Wel, y tro nesaf y byddaf yn cael fy hun yn y sefyllfa hon, byddaf yn cymryd cyngor yr arbenigwraig ac yn gofyn y tri chwestiwn:

  • Ydw i'n llwglyd yn fiolegol?
  • Pa emosiwn ydw i'n ei deimlo ar y funud?
  • Beth sydd ei angen arnaf i ddelio gyda'r emosiwn hwn?
O.N. Methais ag adnabod y ddau dda-da newydd yn y tun Quality Street. Dwn im os yw hynny'n beth da ai peidio. Roedd 62% y ddarllenwyr y blog yn credu nad oedd hynny'n beth da.

17.12.07

Be dwi'n ei gymryd?

Dwi wedi bod yn cymryd gwrthfiotigion (antibiotics) ers wythnos erbyn hyn a dim ond heddiw y gwnes i benderfynu edrych i weld beth yw'r cemegion dwi'n eu llyncu.

Amoxicillin yw'r enw. Mae'n ddigon cyffredin fel gwrthfiotigyn, ac mae'n edrych rhywbeth fel hyn:

A wyddoch chi?

  • Darganfu Alexander Fleming y gwrthfiotigyn cyntaf, sef Penicillin, pan sylweddolodd nad oedd bacteria yn gallu goroesi ar blat ag arni'r math o lwydni sydd i'w ganfod ar fara.
  • Tydy gwrthfiotigion ddim yn gweithio yn erbyn firysau (ffliw, annwyd), dim ond bacteria.
  • Yn 2000, cyhoeddwyd fod pobl trwy'r byd yn cymryd 235 miliwn dogn o wrthfiotigion yn flynyddol. Amcangyfrifir fod 20%-50% o hwnnw yn ddianghenraid.

Prosiect 'La Colina de la Onda'

Dwi'n dechrau cofnodi fy 'anturiaethau' dan amgylchiadau truenus. Dwi wedi bod yn dioddef o haint ar yr ysgyfaint ers dros wythnos ac, o ganlyniad, yn gaeth i'r tŷ.

Er hynny, mae'n syndod beth y gall y dychymyg ei gynnig pan fo'n ymylu ar ddiflastod llwyr. Mae'r tŷ bellach yn brosiect ffotograffiaeth. Roedd yn ymddangos fel gweithgaredd gwerth chweil gan y byddaf yn symud i dŷ newydd ymhen tri neu bedwar mis. Dyma ddau o'm ffefrynnau o'r casgliad.

Byddaf yn rhoi gweddill y lluniau ar Flickr.