19.7.10

Ayuda! Donde esta el autobús!?!

A glywodd rhywun leisiau yng Nghastillo Nuevo de Emlyn yn oriau man bore dydd Sul?

Bu cor
Canción del Cardi yn cystadlu yn yr Eisteddfod yno ar nos Sadwrn. Y tro cyntaf i ni gystadlu ers talwm, a daethom yn ail o bedwar. Mi fasa'n hwb mawr i'r hyder, oni bai am y ffaith mai dod yn ail o gor o blant wnaethon ni ( er fod nifer o'r cor yn nodi mai 'semi-proffesionals' yw nhw). Serch hynny, aeth y dathlu ymlaen i'r oriau man yn nhafarn yr Arado a phawb mewn hwyliau da.

Ond pan ddaeth hi'n amser noswylio, doedd dim golwg o'r bws oedd i fod i'n cludo adref. Roedd y gyrrwr wedi'i heglu hi gan adael
Canción del Cardi yn y glaw yn Nghastillo Nuevo de Emlyn. Doedd dim amdani ond codi ffon ar ein hanwyliaid yn y gobaith y byddent yn tosturio drosom ac yn gwneud y siwrne hir drwy'r gwyll. Llwyddwyd i gael pum car i Gastillo Nuevo de Emlyn. Fel arall, mae'n bosib y byddai ambell un yn yr Arado o hyd.

Diolch byth fod Rodrigo wedi dod atom i aros y noson honno a'i fod yn dal ar ei draed yn darllen am 2yb. Gracias primo!

4.1.09

Blwyddyn newydd dda!

Dyma fi yn ceisio cyflawni un o'm haddunedau trwy ail-afael yn y blog! Rydw i hefyd wedi penderfynu cyfrannu'n rheolaidd unwaith eto i Cristnogblog, blog sy'n nodi gwahanol weithgareddau Cristnogol sy'n digwydd o gwmpas y wlad.

Gobeithio eich bod wedi mwynhau eich Nadolig. Cawsom Nadolig llawen dros ben yn La Tienda Vieja (Casa Roble gynt)! Cafwyd cadarnhad o hynny wrth drio par o jeans yn siop Next yn Trostre ddydd Gwener. Rwyf bellach yn gwasgu i mewn i drowsus 36" o gwmpas y canol! Dwi'n tynnu ar ol fy nhad, mae'n rhaid. Os oedd y Wii Fit yn fy ngalw'n obese yn ol ym mis Medi, mae'n rhaid fy mod bellach yn hyper-obese! Cawn weld y tro nesaf y byddaf yn ymweld ag El Castillo ...

23.8.08

Disclaimer (atodiad i'r blogiad blaenorol)

Dylwn nodi nad yw El Jefe na minnau wedi, nac yn bwriadu, lladd moch daear na gwenoliaid. Deallaf fod hynny yn erbyn y gyfraith a'm bod o bosib wedi codi gwrychyn ambell i gyfaill anifeiliaid sy'n ymweld a'r blog!
Mae Rodrigo yn dweud mai ymosod ar nythod gwenoliaid gydag ysgub pan fyddan nhw oddi cartref yw'r dull o'u rheoli yn Capilla Curig. Mae hynny yn swnio'n llawer mwy 'adargarol', ond byddaf yn pwyntio'r gwenoliaid blin i gyfeiriad y Lanfa pan ddaw'r Gwanwyn!

20.8.08

Un wennol ni wna lanast

Pan symudodd Bojas Rojas a minnau i La Tienda Vieja ar ddechrau'r haf roeddem wrth ein bodd gyda'r bywyd gwyllt oedd i'w weld yng nghefn gwlad Ceredigion.

Yn wir, er bod gan Bojas Rojas ffobia adar, roeddem yn falch o weld gwenoliaid yn nythu dan y bondo ar wep ein cartref newydd.
Ychydig a wyddem bryd hynny fod yr adar bach bywiog hyn yn greaduriaid mor ffiaidd a digywilydd ...
Dim ond rhyw fis sydd wedi mynd heibio ers i mi olchi'r ciosg teliffon sydd o flaen La Tienda Vieja ac mae'r gwenoliaid wedi "gwneud rhifyn" drosto i gyd!
Fel mae'n digwydd, mae El Jefe a minnau wedi bod yn ystyried prynu arfau aer ers rhai wythnosau gan drafod targedau posibl, o foch daear i gylchoedd lliwgar ar bapur. Rwyf bellach yn gwybod yn union pwy fydd ein targed ...


19.8.08

Gwyl y Cobiau, Aberaeron, 10.08.08

Yr unig gob ro'n i'n gwybod amdano cyn hyn oedd yr un rhwng Porthmadog a Phenrhyndeudraeth, felly bu Sul y Cobiau yn agoriad llygad!