30.1.08

Mae'r Maffi-aye yn dod!

Heno, bydd y Maffi-aye, sef El Jefe, Bandido, Rebelde ac El Irlandes yn cyrraedd Por el Mar gan ddechrau penwythnos hir i'w gofio.

Rwy'n ofni fod yr amser wedi dod i Peladito wynebu'r hyn y mae'n rhaid i bob priodfab gwerth ei halen ei wynebu cyn y diwrnod mawr - y drwg-enwog 'Fin de Semana Venado', yr hyn o'i gyfieithu yw 'Penwythnos Stag'.




Dros y dyddiau nesaf, bydd dros ddeg ar hugain o ddynion o dde a gogledd yn cael penwythnos gwyllt yn y gorllewin. Rwy'n clywed y bydd y Maffi-aye yn cychwyn ar ddiwedd diwrnod o waith caled yn y gogledd pell.


Rwy'n eu disgwyl yma am tua 9 o'r gloch, sy'n golygu fy mod yn edrych dros fy ysgwydd bob tro y byddaf y byddaf yn cael cip ar f'oriawr!

Bienvenido a Casa Roble!

Cafodd Bojas Rojas a minnau newyddion ardderchog heddiw: bydd gennym dŷ i symud i mewn iddo ar ddechrau mis Ebrill!

Mae'r cytundebau wedi eu cyfnewid a bydd pryniant 'Casa Roble' ym mhentref 'Roble Torcido' wedi ei gwblhau o fewn y pythefnos nesaf.


Pan aethom i weld Casa Roble am y tro cyntaf, dywedodd y werthwraig fod un o'i breswyliaid yn y 19eg ganrif, dyn o'r enw Morgan Evans, yn pregethu yn ogystal â chadw siop y pentref. Tybed ai Annibynnwr oedd Morgan Evans? Edrychais yn y bedwaredd gyfrol o Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru (1875) a deuthum o hyd i'r brawddegau canlynol ar dudalen 113:


'Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:- Morgan Evans, mab Thomas Evans, Pontbrendu, a brawd i'r diweddar Mr G. T. Evans, Penygraig, sir Gaerfyrddin. Mae yn bregethwr tra chymeradwy yma a'r eglwysi cylchynol er pan y dechreuodd.'

Bydd angen ychydig o waith ymchwil pellach cyn dweud gyda sicrwydd mai hwn yw'r Morgan Evans oedd yn byw yn Casa Roble, ond mae pethau'n edrych yn addawol.

'Nid chwi sydd i wybod yr amseroedd ...'

Mae batri fy oriawr wedi bod yn fflat ers rhai wythnosau bellach, a dydw i ddim eto wedi cael batri newydd. Er hynny, rwy'n bwriadu ei chadw ar fy ngarddwrn neu byddaf yn siwr o'i cholli neu anghofio prynu batri newydd iddi'n gyfan gwbl.


Mae wedi cael effaith ddiddorol ers imi ei gosod ar 9 o'r gloch ar ddydd Llun (mae llythrennau cyntaf y diwrnod yn ymddangos ar y wyneb). Pan fyddaf rhwng dwy dasg, byddaf bron iawn yn reddfol yn troi at fy oriawr i gael cip ar yr amser. Gan ei bod wedi ei gosod ar yr adeg y byddaf fel arfer yn gweithio orau, rwy'n siwr ei fod yn cael effaith gadarnhaol arnaf yn seicolegol. Hyd yn oed os yw'n 3 o'r gloch ar brynhawn dydd Iau, byddaf yn cael rhyw hwb o weld ei bod yn 9 o'r gloch ar fy oriawr.

Dydw i ddim wedi methu unrhyw drefniad pwysig o ganlyniad i hyn. Os oes gennyf rhywbeth wedi'i drefnu, byddaf yn dibynnu ar fy ffôn symudol i roi'r amser cywir i mi. Gallaf osod larwm ar hwnnw hefyd i'm hatgoffa.

Efallai na fydd angen imi newid batri'r oriawr wedi'r cyfan.

29.1.08

Bojas Rojas mewn du a gwyn

Da ydi lluniau du a gwyn, ynde? Roeddwn i'n arfer tynnu lluniau ar ffilm du a gwyn, ond, dros yr wythnosau diwethaf, rydw i wedi dod i werthfawrogi mor rhwydd yw tynnu'r lliw allan o'm lluniau digidol.

Ar y dde, fe welwch lun o Bojas Rojas a dynnais ar y slei (sy'n edrych yn well o lawer mewn du a gwyn)!

Er mwyn rhannu fy hoff luniau du a gwyn gydag unrhyw un sydd â diddordeb, rwyf wedi dechrau blog newydd o'r enw Mewn du a gwyn. Rhowch wybod imi os hoffech gyfrannu ato. Mae El Jefe wedi dweud ei fod am gyfrannu rhywbryd, ond heb wneud eto.

Rwy'n siwr y basai rhai pobl yn gweld arwyddocad mawr yn y diddordeb diweddaraf hwn. 'Dewch imi esbonio: Gair arall am 'ddu a gwyn' yw 'mono'. Fel y gwyddoch, rwy'n hoff o ddefnyddio geiriau Sbaeneg, ac ystyr y gair 'mono' yn yr iaith honno yw 'mwnci'. Ac ym 'mlwyddyn y mwnci' yn y calendr Tseiniaidd y cefais fy ngeni. Pwy fasa'n meddwl!?!

28.1.08

Chwerw'n troi'n chwith

Mae rhai wythnosau ers i Rodrigo a minnau baratoi'r 'Chwerw Teg' yn y twba mawr a'i adael i eplesu. Trefnwyd tua phythefnos yn ol i botelu rhywfaint ohono - bu'n rhaid gadael hanner y chwerw yn y twba am nad oedd gennym ddigon o boteli. Yna, yr wythnos ddiwethaf, blaswyd y chwerw am y tro cyntaf. Llwyddiant ysgubol! Roedd y ddau ohonom wrth ein bodd, ac roedd Gerinho, sy'n rhannu fflat gyda Rodrigo, hefyd wedi cymryd ato.


Ond, heno, cawsom siom. Roeddem yn dod at ddiwedd y stoc a oedd wedi'i botelu pan dywalltwyd gwydryn oedd yn arogli yn amheus a dweud y lleiaf. Roedd ei flas yn bur wahanol i'r hyn oedd yn y poteli eraill. Heb oedi, aeth y ddau wydriad i lawr y sinc. Wedi inni agor caead y twba mawr, sylweddolwyd fod y cwbl wedi troi. Hen siom. Bydd yn rhaid inni daflu'r cwbl (tua 25 peint ohono) .

Byddwn yn gwybod yn well y tro nesaf ...





12.1.08

I ble aeth fy nrych ystlys?

Tra oeddwn yn dioddef o'r haint ar fy ysgyfaint, bu'r 'Peladomobile' yn segur ar un o strydoedd Por el Mar am tua phythefnos. A minnau wedi cael ar ddeall bod gan Por el Mar un o'r graddfeydd trosedd isaf yng ngwledydd Prydain, cefais dipyn o sioc pan ddarganfyddais yn ddiweddar fod fy nrych ystlys wedi diflannu! (Y llun ar y dde yw un o'r olaf a dynnwyd ohono.)

Rwyf wedi cychwyn ymchwiliad i'r diflaniad. Roedd y drych ar ochr y pafin pan ddiflannodd. Mae hynny'n awgrymu mai cerddwr (neu gerddwraig) ac nid modur arall oedd yn gyfrifol. Achosir y rhan fwyaf o ddifrod yn Por el Mar gan ddau grwp, sef y myfyrwyr a'r gwylanod. Gan mai chwilio am fwyd mae'r gwylanod pan fyddant yn difrodi pethau fel arfer (bagiau duon yn arbennig), rwy'n amau mai'r myfyrwyr sydd ar fai. Gan fod y rhan fwyaf o'r myfyrwyr wedi bod adref dros y Nadolig, mae'n debyg fod y diflaniad wedi digwydd yn gynnar yn fy nghyfnod o salwch. Mae'r ymchwiliad yn parhau ... bydd angen gwarant arnaf er mwyn chwilio tai y myfyrwyr.

Dychmygaf fod y drych ystlys wedi'i fowntio ar ddarn o bren siap tarian sydd wedi'i osod ar wal uwchben lle tân, fel tlws i gofnodi rhyw noson fawr a gafwyd ym mis Rhagfyr 2007.





4.1.08

Cernyw, Canada, Cuba a'r Caribi

Roedd Bojas Rojas a minnau yn gytûn o'r cychwyn nad oeddem, am amryw resymau, eisiau teithio ymhell ar ein mis mêl. Lluniwyd rhestr fer rhyw fis neu ddau yn ôl, a phenderfynwyd ym mis Rhagfyr mai Cernyw fyddai ein cyrchfan. Dyw'r un ohonom wedi bod yno o'r blaen ac mae'n edrych yn lle hardd a diddorol dros ben.

Pan oeddwn i'n siopa Nadolig, penderfynais daro i rai o siopau llyfrau'r stryd fawr i chwilio am lyfrau teithio ar Gernyw. Cefais fy siomi. Roedd yno lyfrau ar Canada, Cuba a'r Caribi, ond dim byd ar y rhan honno o Ynysoedd Prydain. Yn y diwedd, bu'n rhaid imi brynu'r llyfrau oddi ar y We.
Rwyf hefyd wedi prynu llyfr i ddysgu ychydig o Gernyweg. Dylai hynny fod yn hwyl!

Gwrando ar y Gair

Heddiw, dechreuais wrando ar y podlediad '1-year Bible' ar fy nheclyn iPod Nano newydd. Os ydw i'n ddigon disgybledig, byddaf wedi gwrando ar y Beibl cyfan erbyn amser yma flwyddyn nesaf. Wrth gwrs, byddaf hefyd yn dal ati i geisio darllen fy Meibl yn rheolaidd hefyd.


Yr unig broblem gyda'r podlediad yw ei fod yn Saesneg (New International Version), sy'n swnio'n ddieithr i ddyn sydd bob amser wedi addoli trwy gyfrwng y Gymraeg, a bod y Beibl yn cael ei ddarllen gan Americanwr. Er hynny, mae'n glir a dealladwy, ac mae'n syndod mor sydyn rydych chi'n dod i arfer â'r acen Americanaidd.

Dwi dri diwrnod ar ei hôl hi, felly mae gen i ychydig o waith dal i fyny i'w wneud.

3.1.08

Trwyn swynol

Dros y 24 awr diwethaf, dwi wedi cael y profiad rhyfedd o allu chwibanu trwy fy ffroen dde. Dwi wedi recordio'r swn ar ddictaffon y cefais yn anrheg Nadolig gan Rebelde, ond dydw i ddim wedi darganfod sut i drosglwyddo'r recordiad i'r cyfrifiadur. Cewch glywed fy nhrwyn swynol cyn gynted ag y byddaf wedi meistroli'r offer!

2.1.08

Adduned

Blwyddyn newydd dda!

Fel y dywedais i mewn blogiad arall yn ddiweddar, roedd hi'n bryd imi feddwl am addunedau ... Y flwyddyn hon, fy adduned yw troi'n 'locavore teg'.

'Locavore' oedd Gair y Flwyddyn 2007 Gwasg Prifysgol Rhydychen. Mae'n cael ei ynganu yn yr un ffordd â 'carnivore' neu 'herbivore', a'i ystyr yw person sy'n gwneud ymdrech i dyfu ei fwyd ei hun neu siopa am gynnyrch lleol mewn siopau lleol, gan ddadlau ei fod yn well i'r amgylchedd ac yn fwy blasus a maethlon, er y gall fod yn ddrytach.

Mae'n siwr y byddwn yn clywed tipyn ar y gair dros y flwyddyn nesaf o ystyried mor gyfarwydd yw geiriau buddugol y ddwy flynedd flaenorol, sef 'carbon neutral' a 'podcast'.

Bydd hon yn dipyn o her imi gan y bydd yn golygu trefnu fy amser yn well a dewis mynd heb rai o'm hoff fwydydd. Rwyf wedi ychwanegu 'teg' at y diwedd gan y byddaf yn ceisio sicrhau fod unrhywbeth nad yw'n lleol o leiaf yn gynnyrch masnach deg. Bum yn siopa bwyd yn y Co-op dros amser cinio. Mae'n ymddangos y bydd angen i 'lleol' olygu 'yn y Deyrnas Unedig' ar hyn o bryd, er y byddaf yn chwilio'n arbennig am gynnyrch o Gymru. Cawn weld sut hwyl gaf arni!

Gyda llaw, oes rhywun yn gallu awgrymu cyfieithiad Cymraeg o'r gair 'locavore'?