Wedi cael pythefnos digon anesmwyth yn dilyn newyddion drwg ac heb gael llawer o awydd nac amser i gyfrannu i'r blog. Dyma geisio ail-gydio ynddi ...
Mae rhai wythnosau wedi mynd heibio ers imi son am y drefniadau'r diwrnod mawr. Wel, mae'n prysur agosau, fel mae El Jefe yn f'atgoffa ar ei flog, ac mae gen i bentwr o bethau ar fy meddwl. Ar wahan i holl drefniadau'r briodas a symud fy eiddo i'r ty newydd, mae pethau'n prysuro yn y swyddfa gan fod diwedd y flwyddyn ariannol yn prysur agosau. Ond rwy'n mwynhau'r cyffro tra medraf ac yn edrych ymlaen at bythefnos o fis mel ar ddechrau mis Ebrill.
Y diweddaraf gyda'r ymchwiliad i hanes 'Casa Roble' yw mai'r Morgan Evans yn Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru oedd yn byw yno (gweler llun ohono ar y dde). Roedd yn groser, llieinydd a haearnwerthwr a oedd hefyd yn bregethwr lleyg gyda'r Annibynwyr.
Ond wedi'r llawenydd o sylweddoli mai Annibynnwr oedd perchennog cyntaf 'Casa Roble', siom o'r mwyaf oedd clywed mai yntau hefyd roddodd yr enw Saesneg i'r pentref! Be fasa Miguel wedi'i ddweud!?! (Ac nid y Miguel yma dwi'n ei feddwl!)
26.2.08
Casa Roble - Casa Independiente!
9.2.08
Yma o hyd
Rhag ofn eich bod yn pryderu fod y Fin de Semana Venado wedi cael y gorau ohonof, gallaf sicrhau ichi fy mod yn iach ac yn ô
Doedd hi ddim yn rhwydd ... Cefais head-on collision gyda go-cart fy nghefnder, Señor '0.9144 metros de cerveza'; cefais fy mhledu gyda pheli paent mewn dillad 'high vis'; cefais fy ngwatwar gan bobl ifanc Castillo Nuevo de Emlyn am fy mod wedi gwisgo fel tsili anferthol; a chefais fwy na'r RDA o alcohol ddeuddydd yn olynol.
O'r rhain i gyd, y mwyaf poenus oedd y peli paent. Wythnos yn ddiweddarach, mae'r cleisiau yn dechrau diflannu. Rwy'n ystyried mynd â dyfeisiwr y gem i'r llys - dwi'n credu mai camsillafiad yw'r gair 'paintball' am ei fod yn cynnwys y llythyren 't'.
Er hynny, dydw i ddim am ichi gael camargraff! Aeth y penwythnos yn arbennig o dda - diolch i Bandido a Rebelde.