22.12.07

"Wake up and smell the coffee"

Bu 'nghefnder a 'nghyfaill Rodrigo a minnau yn gwylio Black Gold, ffilm ddogfen sy'n datgelu anghyfiawnder y fasnach fyd-eang trwy edrych yn benodol ar y diwydiant coffi a'i effaith ar gymuned yn Ethiopia. Clywais amdani'n gyntaf ar wefan Cristnogblog, ac, wedi imi ddarllen adolygiadau cadarnhaol ar wefan hynod ddibynadwy rottentomatoes.com, penderfynais ei phrynu.

Mae'r ffilm werth ei gweld. Cefais fy nharo gan ei llwyddiant i hepgor storiwr neu berson sy'n cyfweld, gan roi'r teimlad eich bod yno eich hun. Roedd y cyferbyniad trawiadol rhwng gwagedd y byd datblygiedig ac angen sylfaenol y byd sy'n datblygu hefyd yn effeithiol.

Rodrigo

Dwi wedi fy argyhoeddi fwyfwy o bwysigrwydd cefnogi'r fasnach deg hyd y gallaf. Nid yn unig y mae'n golygu fod y cynhyrchwr yn cael cyflog teg, ond y mae hefyd yn gofalu am amodau gwaith, cynaladwyedd ac yn darparu arian ar gyfer datblygu cymunedol (e.e. adeiladu ysgolion, llefydd chwech, ac ati).

Wrth gwrs, dwi'n ymwybodol hefyd ei bod yn amser dechrau meddwl am addunedau ar gyfer y flwyddyn newydd ...

No comments: