23.8.08

Disclaimer (atodiad i'r blogiad blaenorol)

Dylwn nodi nad yw El Jefe na minnau wedi, nac yn bwriadu, lladd moch daear na gwenoliaid. Deallaf fod hynny yn erbyn y gyfraith a'm bod o bosib wedi codi gwrychyn ambell i gyfaill anifeiliaid sy'n ymweld a'r blog!
Mae Rodrigo yn dweud mai ymosod ar nythod gwenoliaid gydag ysgub pan fyddan nhw oddi cartref yw'r dull o'u rheoli yn Capilla Curig. Mae hynny yn swnio'n llawer mwy 'adargarol', ond byddaf yn pwyntio'r gwenoliaid blin i gyfeiriad y Lanfa pan ddaw'r Gwanwyn!

20.8.08

Un wennol ni wna lanast

Pan symudodd Bojas Rojas a minnau i La Tienda Vieja ar ddechrau'r haf roeddem wrth ein bodd gyda'r bywyd gwyllt oedd i'w weld yng nghefn gwlad Ceredigion.

Yn wir, er bod gan Bojas Rojas ffobia adar, roeddem yn falch o weld gwenoliaid yn nythu dan y bondo ar wep ein cartref newydd.
Ychydig a wyddem bryd hynny fod yr adar bach bywiog hyn yn greaduriaid mor ffiaidd a digywilydd ...
Dim ond rhyw fis sydd wedi mynd heibio ers i mi olchi'r ciosg teliffon sydd o flaen La Tienda Vieja ac mae'r gwenoliaid wedi "gwneud rhifyn" drosto i gyd!
Fel mae'n digwydd, mae El Jefe a minnau wedi bod yn ystyried prynu arfau aer ers rhai wythnosau gan drafod targedau posibl, o foch daear i gylchoedd lliwgar ar bapur. Rwyf bellach yn gwybod yn union pwy fydd ein targed ...


19.8.08

Gwyl y Cobiau, Aberaeron, 10.08.08

Yr unig gob ro'n i'n gwybod amdano cyn hyn oedd yr un rhwng Porthmadog a Phenrhyndeudraeth, felly bu Sul y Cobiau yn agoriad llygad!














17.8.08

Dwylo blewog El Jefe

Rwyf wedi clywed Mujer Superior yn dweud lawer gwaith fod gan El Jefe ddwylo blewog. Pan fydd yn tynnu lluniau gyda'i chamera, bydd yn sleifio i fyny y tu ôl iddi ac yn dwyn y llun gyda'i gamera ei hun. Mae'n ddrwg gen i ddweud fy mod innau hefyd wedi cael y profiad hwn dros y penwythnos ...

Pan oeddem yn yr Harbwrfeistr dros y penwythnos, gwelais gyfle i dynnu llun diddorol o adlewyrchiad o'r dafarn mewn lamp grôm. Os cymerwch gip ar flog El Jefe, fe welwch ei fod wedi cymryd yr union lun hwnnw ychydig eiliadau yn ddiweddarach!

Mae'n wir fod ganddo well cyfarpar na mi ar gyfer tynnu lluniau, ond hyd yn oed gyda'r camera gorau yn y byd rhaid cael llygad am lun ...

(A dyma fi wedi talu'r pwyth yn
ôl. Mae ei lun mor debyg i f'un i fel nad wyf wedi trafferthu ei lawrlwytho oddi ar y camera a mynd yn syth i flog El Jefe i'w fachu!)

12.5.08

O'r diwedd!

Wedi disgwyl am wythnosau lawer, rydym wedi cael y band llydan yn La Tienda Vieja! Gyda chymaint wedi digwydd ers y blogiad diwethaf, mae dyn yn ei chael hi'n anodd gwybod lle i ddechrau!

Bu newidiadau mawr yn fy mywyd dros yr wythnosau diwethaf, ac rwy'n gobeithio caf gyfle i son am yr anturiaethau hynny. Fel y gwelwch, y peth cyntaf i'w wneud oedd newid enw'r blog ...  

1.3.08

Tywydd da i chwïaid

Ar ddydd Gwener, bu criw ohonom o'r swyddfa i Lanarthne i gyfarfod y Cwac-pac yn y gwynt a'r glaw. Cawsom groeso mawr gan Meirion a Glenda, a chyfle i hel y chwïaid trwy gyfres o glwydi gyda chymorth Glen, y ci defaid. Yn wir, er mai'r chwïaid oedd yr atyniad mawr, ufudd-dod Glen i'w feistr, a gallu'r ddau i gyd-weithio mor effeithiol oedd y rhyfeddod mwyaf.

Wrth wylio'r ci a'r chw
ïaid, bûm yn ceisio dyfalu beth oedd yn mynd trwy feddwl yr anifeiliaid. Ac, fel mae'n digwydd, yr hyn oedd ar glawr cylchgrawn a brynais heddiw oedd llun o gi defaid a'r geiriau 'Inside Animal Minds' ...

Mae gwyddonwyr yn honni fod rhai anifeiliaid yn fwy deallus nag a dybiwyd. Mae arbrofion yn dangos fod nifer o rywogaethau yn ddangos arwyddion o allu meddyliol uwch: cof da, gafael ar ramadeg a symbolau, hunan-ymwybyddiaeth, dealltwriaeth o gymhellion anifeiliaid eraill, y gallu i ddynwared a chreadigrwydd.

Ymhlith yr enghreifftiau mwyaf diddorol oedd gallu'r eliffant i sylweddoli mai adlewyrchiad ohono'i hun sydd ar wyneb y dŵr, a'i ddefnyddio fel drych i gyffwrdd â rhannau o'i gorff nad yw'n eu gweld fel arall. Mae'n debyg fod hyd yn oed defaid yn gallu cofio ac adnabod wynebau defaid eraill a phobl am gyfnod o ddwy flynedd.

Mae'n ddigon anodd deall sut mae rhai o'm rhywogaeth fy hun yn meddwl, heb sô
n am rywogaethau eraill. Bûm yn chwilio am enghreifftiau o gŵn defaid deallus ar youtube a dyma un fideo y deuthum ar ei draws o dan y disgrifiad 'Border Collies: a very smart and intelligent animal' (cofiwch roi'r sain ymlaen cyn ei wylio). Nid yn unig y mae rhywun wedi mynd i'r trafferth o'i gynhyrchu, ond mae dros 7,500 o bobl wedi ei wylio a rhai ohonynt wedi gadael sylwadau. 'The mind boggles', ys dywed y Sais.

26.2.08

Casa Roble - Casa Independiente!

Wedi cael pythefnos digon anesmwyth yn dilyn newyddion drwg ac heb gael llawer o awydd nac amser i gyfrannu i'r blog. Dyma geisio ail-gydio ynddi ...

Mae rhai wythnosau wedi mynd heibio ers imi son am y drefniadau'r diwrnod mawr. Wel, mae'n prysur agosau, fel mae El Jefe yn f'atgoffa ar ei flog, ac mae gen i bentwr o bethau ar fy meddwl. Ar wahan i holl
drefniadau'r briodas a symud fy eiddo i'r ty newydd, mae pethau'n prysuro yn y swyddfa gan fod diwedd y flwyddyn ariannol yn prysur agosau. Ond rwy'n mwynhau'r cyffro tra medraf ac yn edrych ymlaen at bythefnos o fis mel ar ddechrau mis Ebrill.

Y diweddaraf gyda'r ymchwiliad i hanes 'Casa Roble' yw mai'r Morgan Evans yn Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru oedd yn byw yno (gweler llun ohono ar y dde). Roedd yn groser, llieinydd a haearnwerthwr a oedd hefyd yn bregethwr lleyg gyda'r Annibynwyr.

Ond wedi'r llawenydd o sylweddoli mai Annibynnwr oedd perchennog cyntaf 'Casa Roble', siom o'r mwyaf oedd clywed mai yntau hefyd roddodd yr enw Saesneg i'r pentref! Be fasa Miguel wedi'i ddweud!?! (Ac nid y Miguel yma dwi'n ei feddwl!)

9.2.08

Yma o hyd

Rhag ofn eich bod yn pryderu fod y Fin de Semana Venado wedi cael y gorau ohonof, gallaf sicrhau ichi fy mod yn iach ac yn ôl yn Por el Mar.

Doedd hi ddim yn rhwydd ... Cefais head-on collision gyda go-cart fy nghefnder, Señor '0.9144 metros de cerveza'; cefais fy mhledu gyda pheli paent mewn dillad 'high vis'; cefais fy ngwatwar gan bobl ifanc Castillo Nuevo de Emlyn am fy mod wedi gwisgo fel tsili anferthol; a chefais fwy na'r RDA o alcohol ddeuddydd yn olynol.


O'r rhain i gyd, y mwyaf poenus oedd y peli paent. Wythnos yn ddiweddarach, mae'r cleisiau yn dechrau diflannu. Rwy'n ystyried mynd â dyfeisiwr y gem i'r llys - dwi'n credu mai camsillafiad yw'r gair 'paintball' am ei fod yn cynnwys y llythyren 't'.

Er hynny, dydw i ddim am ichi gael camargraff! Aeth y penwythnos yn arbennig o dda - diolch i Bandido a Rebelde.

30.1.08

Mae'r Maffi-aye yn dod!

Heno, bydd y Maffi-aye, sef El Jefe, Bandido, Rebelde ac El Irlandes yn cyrraedd Por el Mar gan ddechrau penwythnos hir i'w gofio.

Rwy'n ofni fod yr amser wedi dod i Peladito wynebu'r hyn y mae'n rhaid i bob priodfab gwerth ei halen ei wynebu cyn y diwrnod mawr - y drwg-enwog 'Fin de Semana Venado', yr hyn o'i gyfieithu yw 'Penwythnos Stag'.




Dros y dyddiau nesaf, bydd dros ddeg ar hugain o ddynion o dde a gogledd yn cael penwythnos gwyllt yn y gorllewin. Rwy'n clywed y bydd y Maffi-aye yn cychwyn ar ddiwedd diwrnod o waith caled yn y gogledd pell.


Rwy'n eu disgwyl yma am tua 9 o'r gloch, sy'n golygu fy mod yn edrych dros fy ysgwydd bob tro y byddaf y byddaf yn cael cip ar f'oriawr!

Bienvenido a Casa Roble!

Cafodd Bojas Rojas a minnau newyddion ardderchog heddiw: bydd gennym dŷ i symud i mewn iddo ar ddechrau mis Ebrill!

Mae'r cytundebau wedi eu cyfnewid a bydd pryniant 'Casa Roble' ym mhentref 'Roble Torcido' wedi ei gwblhau o fewn y pythefnos nesaf.


Pan aethom i weld Casa Roble am y tro cyntaf, dywedodd y werthwraig fod un o'i breswyliaid yn y 19eg ganrif, dyn o'r enw Morgan Evans, yn pregethu yn ogystal â chadw siop y pentref. Tybed ai Annibynnwr oedd Morgan Evans? Edrychais yn y bedwaredd gyfrol o Hanes Eglwysi Annibynnol Cymru (1875) a deuthum o hyd i'r brawddegau canlynol ar dudalen 113:


'Codwyd y personau canlynol i bregethu yn yr eglwys hon:- Morgan Evans, mab Thomas Evans, Pontbrendu, a brawd i'r diweddar Mr G. T. Evans, Penygraig, sir Gaerfyrddin. Mae yn bregethwr tra chymeradwy yma a'r eglwysi cylchynol er pan y dechreuodd.'

Bydd angen ychydig o waith ymchwil pellach cyn dweud gyda sicrwydd mai hwn yw'r Morgan Evans oedd yn byw yn Casa Roble, ond mae pethau'n edrych yn addawol.

'Nid chwi sydd i wybod yr amseroedd ...'

Mae batri fy oriawr wedi bod yn fflat ers rhai wythnosau bellach, a dydw i ddim eto wedi cael batri newydd. Er hynny, rwy'n bwriadu ei chadw ar fy ngarddwrn neu byddaf yn siwr o'i cholli neu anghofio prynu batri newydd iddi'n gyfan gwbl.


Mae wedi cael effaith ddiddorol ers imi ei gosod ar 9 o'r gloch ar ddydd Llun (mae llythrennau cyntaf y diwrnod yn ymddangos ar y wyneb). Pan fyddaf rhwng dwy dasg, byddaf bron iawn yn reddfol yn troi at fy oriawr i gael cip ar yr amser. Gan ei bod wedi ei gosod ar yr adeg y byddaf fel arfer yn gweithio orau, rwy'n siwr ei fod yn cael effaith gadarnhaol arnaf yn seicolegol. Hyd yn oed os yw'n 3 o'r gloch ar brynhawn dydd Iau, byddaf yn cael rhyw hwb o weld ei bod yn 9 o'r gloch ar fy oriawr.

Dydw i ddim wedi methu unrhyw drefniad pwysig o ganlyniad i hyn. Os oes gennyf rhywbeth wedi'i drefnu, byddaf yn dibynnu ar fy ffôn symudol i roi'r amser cywir i mi. Gallaf osod larwm ar hwnnw hefyd i'm hatgoffa.

Efallai na fydd angen imi newid batri'r oriawr wedi'r cyfan.

29.1.08

Bojas Rojas mewn du a gwyn

Da ydi lluniau du a gwyn, ynde? Roeddwn i'n arfer tynnu lluniau ar ffilm du a gwyn, ond, dros yr wythnosau diwethaf, rydw i wedi dod i werthfawrogi mor rhwydd yw tynnu'r lliw allan o'm lluniau digidol.

Ar y dde, fe welwch lun o Bojas Rojas a dynnais ar y slei (sy'n edrych yn well o lawer mewn du a gwyn)!

Er mwyn rhannu fy hoff luniau du a gwyn gydag unrhyw un sydd â diddordeb, rwyf wedi dechrau blog newydd o'r enw Mewn du a gwyn. Rhowch wybod imi os hoffech gyfrannu ato. Mae El Jefe wedi dweud ei fod am gyfrannu rhywbryd, ond heb wneud eto.

Rwy'n siwr y basai rhai pobl yn gweld arwyddocad mawr yn y diddordeb diweddaraf hwn. 'Dewch imi esbonio: Gair arall am 'ddu a gwyn' yw 'mono'. Fel y gwyddoch, rwy'n hoff o ddefnyddio geiriau Sbaeneg, ac ystyr y gair 'mono' yn yr iaith honno yw 'mwnci'. Ac ym 'mlwyddyn y mwnci' yn y calendr Tseiniaidd y cefais fy ngeni. Pwy fasa'n meddwl!?!

28.1.08

Chwerw'n troi'n chwith

Mae rhai wythnosau ers i Rodrigo a minnau baratoi'r 'Chwerw Teg' yn y twba mawr a'i adael i eplesu. Trefnwyd tua phythefnos yn ol i botelu rhywfaint ohono - bu'n rhaid gadael hanner y chwerw yn y twba am nad oedd gennym ddigon o boteli. Yna, yr wythnos ddiwethaf, blaswyd y chwerw am y tro cyntaf. Llwyddiant ysgubol! Roedd y ddau ohonom wrth ein bodd, ac roedd Gerinho, sy'n rhannu fflat gyda Rodrigo, hefyd wedi cymryd ato.


Ond, heno, cawsom siom. Roeddem yn dod at ddiwedd y stoc a oedd wedi'i botelu pan dywalltwyd gwydryn oedd yn arogli yn amheus a dweud y lleiaf. Roedd ei flas yn bur wahanol i'r hyn oedd yn y poteli eraill. Heb oedi, aeth y ddau wydriad i lawr y sinc. Wedi inni agor caead y twba mawr, sylweddolwyd fod y cwbl wedi troi. Hen siom. Bydd yn rhaid inni daflu'r cwbl (tua 25 peint ohono) .

Byddwn yn gwybod yn well y tro nesaf ...





12.1.08

I ble aeth fy nrych ystlys?

Tra oeddwn yn dioddef o'r haint ar fy ysgyfaint, bu'r 'Peladomobile' yn segur ar un o strydoedd Por el Mar am tua phythefnos. A minnau wedi cael ar ddeall bod gan Por el Mar un o'r graddfeydd trosedd isaf yng ngwledydd Prydain, cefais dipyn o sioc pan ddarganfyddais yn ddiweddar fod fy nrych ystlys wedi diflannu! (Y llun ar y dde yw un o'r olaf a dynnwyd ohono.)

Rwyf wedi cychwyn ymchwiliad i'r diflaniad. Roedd y drych ar ochr y pafin pan ddiflannodd. Mae hynny'n awgrymu mai cerddwr (neu gerddwraig) ac nid modur arall oedd yn gyfrifol. Achosir y rhan fwyaf o ddifrod yn Por el Mar gan ddau grwp, sef y myfyrwyr a'r gwylanod. Gan mai chwilio am fwyd mae'r gwylanod pan fyddant yn difrodi pethau fel arfer (bagiau duon yn arbennig), rwy'n amau mai'r myfyrwyr sydd ar fai. Gan fod y rhan fwyaf o'r myfyrwyr wedi bod adref dros y Nadolig, mae'n debyg fod y diflaniad wedi digwydd yn gynnar yn fy nghyfnod o salwch. Mae'r ymchwiliad yn parhau ... bydd angen gwarant arnaf er mwyn chwilio tai y myfyrwyr.

Dychmygaf fod y drych ystlys wedi'i fowntio ar ddarn o bren siap tarian sydd wedi'i osod ar wal uwchben lle tân, fel tlws i gofnodi rhyw noson fawr a gafwyd ym mis Rhagfyr 2007.





4.1.08

Cernyw, Canada, Cuba a'r Caribi

Roedd Bojas Rojas a minnau yn gytûn o'r cychwyn nad oeddem, am amryw resymau, eisiau teithio ymhell ar ein mis mêl. Lluniwyd rhestr fer rhyw fis neu ddau yn ôl, a phenderfynwyd ym mis Rhagfyr mai Cernyw fyddai ein cyrchfan. Dyw'r un ohonom wedi bod yno o'r blaen ac mae'n edrych yn lle hardd a diddorol dros ben.

Pan oeddwn i'n siopa Nadolig, penderfynais daro i rai o siopau llyfrau'r stryd fawr i chwilio am lyfrau teithio ar Gernyw. Cefais fy siomi. Roedd yno lyfrau ar Canada, Cuba a'r Caribi, ond dim byd ar y rhan honno o Ynysoedd Prydain. Yn y diwedd, bu'n rhaid imi brynu'r llyfrau oddi ar y We.
Rwyf hefyd wedi prynu llyfr i ddysgu ychydig o Gernyweg. Dylai hynny fod yn hwyl!

Gwrando ar y Gair

Heddiw, dechreuais wrando ar y podlediad '1-year Bible' ar fy nheclyn iPod Nano newydd. Os ydw i'n ddigon disgybledig, byddaf wedi gwrando ar y Beibl cyfan erbyn amser yma flwyddyn nesaf. Wrth gwrs, byddaf hefyd yn dal ati i geisio darllen fy Meibl yn rheolaidd hefyd.


Yr unig broblem gyda'r podlediad yw ei fod yn Saesneg (New International Version), sy'n swnio'n ddieithr i ddyn sydd bob amser wedi addoli trwy gyfrwng y Gymraeg, a bod y Beibl yn cael ei ddarllen gan Americanwr. Er hynny, mae'n glir a dealladwy, ac mae'n syndod mor sydyn rydych chi'n dod i arfer â'r acen Americanaidd.

Dwi dri diwrnod ar ei hôl hi, felly mae gen i ychydig o waith dal i fyny i'w wneud.

3.1.08

Trwyn swynol

Dros y 24 awr diwethaf, dwi wedi cael y profiad rhyfedd o allu chwibanu trwy fy ffroen dde. Dwi wedi recordio'r swn ar ddictaffon y cefais yn anrheg Nadolig gan Rebelde, ond dydw i ddim wedi darganfod sut i drosglwyddo'r recordiad i'r cyfrifiadur. Cewch glywed fy nhrwyn swynol cyn gynted ag y byddaf wedi meistroli'r offer!

2.1.08

Adduned

Blwyddyn newydd dda!

Fel y dywedais i mewn blogiad arall yn ddiweddar, roedd hi'n bryd imi feddwl am addunedau ... Y flwyddyn hon, fy adduned yw troi'n 'locavore teg'.

'Locavore' oedd Gair y Flwyddyn 2007 Gwasg Prifysgol Rhydychen. Mae'n cael ei ynganu yn yr un ffordd â 'carnivore' neu 'herbivore', a'i ystyr yw person sy'n gwneud ymdrech i dyfu ei fwyd ei hun neu siopa am gynnyrch lleol mewn siopau lleol, gan ddadlau ei fod yn well i'r amgylchedd ac yn fwy blasus a maethlon, er y gall fod yn ddrytach.

Mae'n siwr y byddwn yn clywed tipyn ar y gair dros y flwyddyn nesaf o ystyried mor gyfarwydd yw geiriau buddugol y ddwy flynedd flaenorol, sef 'carbon neutral' a 'podcast'.

Bydd hon yn dipyn o her imi gan y bydd yn golygu trefnu fy amser yn well a dewis mynd heb rai o'm hoff fwydydd. Rwyf wedi ychwanegu 'teg' at y diwedd gan y byddaf yn ceisio sicrhau fod unrhywbeth nad yw'n lleol o leiaf yn gynnyrch masnach deg. Bum yn siopa bwyd yn y Co-op dros amser cinio. Mae'n ymddangos y bydd angen i 'lleol' olygu 'yn y Deyrnas Unedig' ar hyn o bryd, er y byddaf yn chwilio'n arbennig am gynnyrch o Gymru. Cawn weld sut hwyl gaf arni!

Gyda llaw, oes rhywun yn gallu awgrymu cyfieithiad Cymraeg o'r gair 'locavore'?