23.12.07

Chwarae yn troi'n chwerw

Cyn dychwelyd i'r gogledd pell, cafodd Peladito a Rodrigo noson brysur yn cynhyrchu chwerw ar gyfer y flwyddyn newydd.


Rhaid cyfaddef ein bod wedi torri ambell i gornel ar hyd y ffordd. Roedd y pecyn parod yn cynnwys llond tun o sylwedd tebyg i daffi triog a sach bach o furum. Tywalltom gilogram o siwgr (tua 3/4 yn siwgr masnach deg), y sylwedd trioglyd a phedwar peint o ddŵr berwedig i mewn i'r twba, ac, wedi'i droi am rai munudau, ychwanegwyd tua 20-25 litr o ddŵr oer. Mae'r twba bellach yn yr ystafell ymolchi, lle mae angen iddo gael ei gadw ar dymheredd rhwng 16˚-20˚C er mwyn i'r burum wneud ei waith.
Ymhen 8-9 diwrnod, bydd angen inni ychwanegu ychydig o siwgr i roi blas, a thua phedwar diwrnod yn ddiweddarach, bydd y chwerw yn barod i'w botelu. Dwi'n siwr o roi gwybod ichi sut fydd pethau'n dod yn eu blaen.

Roedd Rodrigo a minnau yn chwilio am enw ar gyfer cynnyrch newydd hwn. Gyda 75 y cant o'r bleidlais, mae'r cyhoedd wedi penderfynu mai 'Chwerw Teg' fydd ei enw.
(Nid yw'r ffotograff wedi dod allan cystal ag yr oeddwn wedi'i obeithio, ond mae'r peth pwysicaf yn y llun mewn ffocws.)

No comments: