29.1.08

Bojas Rojas mewn du a gwyn

Da ydi lluniau du a gwyn, ynde? Roeddwn i'n arfer tynnu lluniau ar ffilm du a gwyn, ond, dros yr wythnosau diwethaf, rydw i wedi dod i werthfawrogi mor rhwydd yw tynnu'r lliw allan o'm lluniau digidol.

Ar y dde, fe welwch lun o Bojas Rojas a dynnais ar y slei (sy'n edrych yn well o lawer mewn du a gwyn)!

Er mwyn rhannu fy hoff luniau du a gwyn gydag unrhyw un sydd รข diddordeb, rwyf wedi dechrau blog newydd o'r enw Mewn du a gwyn. Rhowch wybod imi os hoffech gyfrannu ato. Mae El Jefe wedi dweud ei fod am gyfrannu rhywbryd, ond heb wneud eto.

Rwy'n siwr y basai rhai pobl yn gweld arwyddocad mawr yn y diddordeb diweddaraf hwn. 'Dewch imi esbonio: Gair arall am 'ddu a gwyn' yw 'mono'. Fel y gwyddoch, rwy'n hoff o ddefnyddio geiriau Sbaeneg, ac ystyr y gair 'mono' yn yr iaith honno yw 'mwnci'. Ac ym 'mlwyddyn y mwnci' yn y calendr Tseiniaidd y cefais fy ngeni. Pwy fasa'n meddwl!?!

No comments: