2.1.08

Adduned

Blwyddyn newydd dda!

Fel y dywedais i mewn blogiad arall yn ddiweddar, roedd hi'n bryd imi feddwl am addunedau ... Y flwyddyn hon, fy adduned yw troi'n 'locavore teg'.

'Locavore' oedd Gair y Flwyddyn 2007 Gwasg Prifysgol Rhydychen. Mae'n cael ei ynganu yn yr un ffordd รข 'carnivore' neu 'herbivore', a'i ystyr yw person sy'n gwneud ymdrech i dyfu ei fwyd ei hun neu siopa am gynnyrch lleol mewn siopau lleol, gan ddadlau ei fod yn well i'r amgylchedd ac yn fwy blasus a maethlon, er y gall fod yn ddrytach.

Mae'n siwr y byddwn yn clywed tipyn ar y gair dros y flwyddyn nesaf o ystyried mor gyfarwydd yw geiriau buddugol y ddwy flynedd flaenorol, sef 'carbon neutral' a 'podcast'.

Bydd hon yn dipyn o her imi gan y bydd yn golygu trefnu fy amser yn well a dewis mynd heb rai o'm hoff fwydydd. Rwyf wedi ychwanegu 'teg' at y diwedd gan y byddaf yn ceisio sicrhau fod unrhywbeth nad yw'n lleol o leiaf yn gynnyrch masnach deg. Bum yn siopa bwyd yn y Co-op dros amser cinio. Mae'n ymddangos y bydd angen i 'lleol' olygu 'yn y Deyrnas Unedig' ar hyn o bryd, er y byddaf yn chwilio'n arbennig am gynnyrch o Gymru. Cawn weld sut hwyl gaf arni!

Gyda llaw, oes rhywun yn gallu awgrymu cyfieithiad Cymraeg o'r gair 'locavore'?

1 comment:

El-Jefe@hotmail.co.uk said...

Da gweld Peladito yn anelu at fod yn 'locavore'. Dwi'n credu y gwna i barhau i fod yn 'bore'!