Ar ddydd Gwener, cefais dun o Quality Street yn rhodd gan gydweithiwr i Bojas Rojas. Erbyn neithiwr (nos Lun), roedd y cwbl wedi mynd. Roedd y tun yn cynnwys 1.2kg o felysion (ond hoffwn ychwanegu fod y pwysau'n cynnwys y papur o'u hamgylch, a wnes i ddim bwyta hwnnw). Fel y gwelwch, dyw'r haint ddim wedi amharu ar fy archwaeth. Ond, rhaid cyfaddef, mae hwn yn wendid gennyf; digwyddodd yr un peth i focs o rawnwin yr wythnos ddiwethaf.
Gwnaeth hyn imi ofyn 'Pam ydyn ni'n gor-fwyta?', a deuthum ar draws yr erthygl ddiddorol hon. Mae'n debyg y gall nifer o ffactorau biolegol ac emosiynol fod ar waith pan fyddwn yn gor-fwyta. Wel, y tro nesaf y byddaf yn cael fy hun yn y sefyllfa hon, byddaf yn cymryd cyngor yr arbenigwraig ac yn gofyn y tri chwestiwn:
- Ydw i'n llwglyd yn fiolegol?
- Pa emosiwn ydw i'n ei deimlo ar y funud?
- Beth sydd ei angen arnaf i ddelio gyda'r emosiwn hwn?
2 comments:
Diddorol tu hwnt, cwestiwn sydd wedi bod yn fy llethu ers cryn amser! Beth am ffactorau diwylliannol a chymdeithasegol yn ogystal e.e. cael dy orfodi pan yn blentyn i fwyta popeth a gynigir, a phan yn oedolyn dan bwysau i wireddu'r ystrydeb ohonot fel 'bwytwr mawr'!?
Dwi'n cytuno. O ddarllen yr erthygl, mae'n ymddangos nad yw awdur 'Intuitive Eating' wedi rhoi ystyriaeth i'r ffactorau hyn. O'm mhrofiad innau hefyd, mae yna ddylanwadau eraill ar waith pan fyddi'n bwyta - dy fagwraeth a'r bobl o'th gwmpas. Bron na ellid dadlau fod y rhain yn gryfach na'r ffactorau biolegol ar adegau!
Post a Comment