A glywodd rhywun leisiau yng Nghastillo Nuevo de Emlyn yn oriau man bore dydd Sul?
Bu cor Canción del Cardi yn cystadlu yn yr Eisteddfod yno ar nos Sadwrn. Y tro cyntaf i ni gystadlu ers talwm, a daethom yn ail o bedwar. Mi fasa'n hwb mawr i'r hyder, oni bai am y ffaith mai dod yn ail o gor o blant wnaethon ni ( er fod nifer o'r cor yn nodi mai 'semi-proffesionals' yw nhw). Serch hynny, aeth y dathlu ymlaen i'r oriau man yn nhafarn yr Arado a phawb mewn hwyliau da.
Ond pan ddaeth hi'n amser noswylio, doedd dim golwg o'r bws oedd i fod i'n cludo adref. Roedd y gyrrwr wedi'i heglu hi gan adael Canción del Cardi yn y glaw yn Nghastillo Nuevo de Emlyn. Doedd dim amdani ond codi ffon ar ein hanwyliaid yn y gobaith y byddent yn tosturio drosom ac yn gwneud y siwrne hir drwy'r gwyll. Llwyddwyd i gael pum car i Gastillo Nuevo de Emlyn. Fel arall, mae'n bosib y byddai ambell un yn yr Arado o hyd.
Diolch byth fod Rodrigo wedi dod atom i aros y noson honno a'i fod yn dal ar ei draed yn darllen am 2yb. Gracias primo!
19.7.10
Ayuda! Donde esta el autobús!?!
4.1.09
Blwyddyn newydd dda!
Dyma fi yn ceisio cyflawni un o'm haddunedau trwy ail-afael yn y blog! Rydw i hefyd wedi penderfynu cyfrannu'n rheolaidd unwaith eto i Cristnogblog, blog sy'n nodi gwahanol weithgareddau Cristnogol sy'n digwydd o gwmpas y wlad.
Gobeithio eich bod wedi mwynhau eich Nadolig. Cawsom Nadolig llawen dros ben yn La Tienda Vieja (Casa Roble gynt)! Cafwyd cadarnhad o hynny wrth drio par o jeans yn siop Next yn Trostre ddydd Gwener. Rwyf bellach yn gwasgu i mewn i drowsus 36" o gwmpas y canol! Dwi'n tynnu ar ol fy nhad, mae'n rhaid. Os oedd y Wii Fit yn fy ngalw'n obese yn ol ym mis Medi, mae'n rhaid fy mod bellach yn hyper-obese! Cawn weld y tro nesaf y byddaf yn ymweld ag El Castillo ...
23.8.08
Disclaimer (atodiad i'r blogiad blaenorol)
20.8.08
Un wennol ni wna lanast
Pan symudodd Bojas Rojas a minnau i La Tienda Vieja ar ddechrau'r haf roeddem wrth ein bodd gyda'r bywyd gwyllt oedd i'w weld yng nghefn gwlad Ceredigion.